Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru – Llais Cynghorau Cymru

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn sefydliad trawsbleidiol dan arweiniad gwleidyddol sy’n ceisio rhoi llais cryf i lywodraeth leol ar lefel genedlaethol. Mae’r Gymdeithas yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac yn hybu democratiaeth leol yng Nghymru. Mae’r 22 Cyngor yng Nghymru yn aelodau o’r Gymdeithas ac mae'r tri awdurdod tân ac achub ac awdurdodau'r tri pharc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.

 

Credwn fod y syniadau sy’n newid bywydau pobl yn digwydd yn lleol

Mae cymunedau ar eu gorau pan maen nhw’n teimlo eu bod nhw wedi’u cysylltu â’u cynghorau trwy ddemocratiaeth leol. Trwy hyrwyddo, hwyluso a chyflawni’r  cysylltiadau hyn, gallwn ni ddatblygu democratiaeth leol fywiog sy’n galluogi cymunedau cynaliadwy i ffynnu.

 

Prif nod y Gymdeithas yw hyrwyddo, diogelu, cefnogi a datblygu llywodraeth leol ddemocrataidd a buddiannau cynghorau yng Nghymru.

 

Mae hyn yn golygu:

• Hyrwyddo swyddogaeth a statws cynghorwyr ac arweinwyr cynghorau

• Sicrhau’r rhyddid mwyaf yn lleol mewn deddfwriaeth neu ganllawiau statudol

• Dadlau o blaid cyllid cynaliadwy a hirdymor i gynghorau a’i sicrhau

• Hybu gwelliant dan arweiniad y sector

• Annog democratiaeth leol fywiog gan hybu mwy o amrywiaeth

• Cefnogi cynghorau i reoli eu gweithluoedd yn effeithiol.

 

Dyma gyflwyniad CLlLC i ymchwiliad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i Ddigartrefedd.

 

Fel yr awgrymwyd, mae’r cyflwyniad yn seiliedig ar gylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor: -

 

 

 

 

 

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i archwilio’r canlynol: 

 

 

Cafodd ei yrru yn y lle cyntaf gan y pandemig a’r newidiadau i’r canllawiau statudol gan Lywodraeth Cymru, a bu newid sylweddol yn y dull o ddarparu a defnyddio llety dros dro mewn argyfwng ar gyfer aelwydydd digartref. Mae niferoedd cynyddol o bobl yn cael eu rhoi mewn llety dros dro mewn argyfwng wedi’u darparu gan Gynghorau (8,454 o unigolion ar ddiwedd mis Awst 2022). Ers dechrau’r pandemig mae dros 26,400 o bobl a oedd gynt yn ddigartref wedi cael cefnogaeth drwy lety dros dro mewn argyfwng.  Mae cynnydd cyson o ran nifer y bobl mewn llety dros dro mewn argyfwng ac nid yw'n ymddangos y bydd hynny’n lleihau’n fuan.

 

Ym mis Mai 2020, yn rhan o’r ymateb i’r pandemig, sicrhaodd Llywodraeth Cymru gyllid refeniw a chyfalaf ychwanegol drwy “Digartrefedd: Cam 2” i gynyddu cyflenwad ac addasrwydd llety dros dro. Roedd y cyllid hwn yn cynnwys canllawiau yn nodi'r gofynion ar gyfer cynyddu nifer y llety sydd ar gael a gwella eu hansawdd.

 

Yn ogystal â chynnydd yng nghostau’r cartref i bawb o ganlyniad i chwyddiant, gan gynnwys costau ynni’n codi, mae cynnydd sylweddol i rhent yn y rhan fwyaf o ardaloedd, ac mae bwlch cynyddol dros gymorth Lwfans Tai Lleol sydd ar gael; mae hyn yn golygu bod y Sector Rhentu Preifat yn fwyfwy anodd i lawer o aelwydydd gael mynediad iddo a’i fforddio. Mae cyfnod estynedig o gostau defnyddwyr yn cynyddu a chyfraddau llog uwch, heb unrhyw gynnydd mewn incwm aelwydydd, hefyd yn debygol iawn o effeithio ar berchen-ddeiliaid, a fydd yn ei chael yn anoddach talu eu morgais. Bydd y cyfan yn arwain at gynnydd yn y galw am wasanaethau digartrefedd a'r defnydd o lety dros dro.

 

Y Grant Cymorth Tai yw prif ffrwd gyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer atal digartrefedd, a chaiff ei ddefnyddio gan Gynghorau i gomisiynu gwasanaethau sy’n cefnogi dros 60,000 o bobl bob blwyddyn i fyw’n annibynnol yn eu cymunedau. Trwy gynnig lloches, llety â chymorth a gwasanaethau cefnogi tenantiaeth, mae'r Grant Cymorth Tai yn galluogi pobl i droi eu cefn ar ddigartrefedd, gadael perthnasoedd camdriniol, cynnal eu tenantiaeth, goresgyn problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, datblygu eu cryfderau a chyflawni eu dyheadau. Mae’r cyllid Grant Cymorth Tai blynyddol presennol o £166 miliwn dan bwysau sylweddol i fodloni’r galw cynyddol ar y safon ofynnol yn gysylltiedig â’r pwysau o ran digartrefedd a amlinellir uchod, a’r angen i sicrhau bod gwasanaethau sy’n cael eu comisiynu gan Gynghorau’n cael digon o gyllid i dalu cyflog teg i’w staff a rhoi’r cymorth sydd ei angen arnynt.

 

 

 

 

 

Mae awdurdodau lleol yn ymwybodol iawn o’r effeithiau negyddol a’r amhariad ar fywydau y gall byw mewn llety dros dro ei gael ar unigolion a theuluoedd, yn enwedig plant a phobl ifanc, ac maen nhw’n ceisio sicrhau symud ymlaen i gartrefi hirdymor addas, priodol i unigolion a theuluoedd cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl. Fodd bynnag, gyda nifer gynyddol o aelwydydd yn gofyn am gymorth gan Gynghorau, ac angen llety dros dro mewn argyfwng, ynghyd â’r diffyg cyflenwad o lety addas, fforddiadwy ym mhob rhan o Gymru, mae hyn yn golygu, yn anffodus, mai yn anaml iawn y caiff hyn ei gyflawni ar hyn o bryd heb ryw fath o oedi.

 

Fodd bynnag, gall cael llety dros dro o ansawdd da hefyd fod o fudd i rai pobl sydd o bosib wedi profi bywyd anhrefnus a gall roi sefydlogrwydd a chyfleoedd cadarnhaol a gaiff eu croesawu i ymgysylltu â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymorth eraill.

 

 

Mae adroddiad CIH Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar “Joining the dots 3”  0447-ttc-joining-the-dots-3-eng-v3.pdf (cih.org) yn nodi rhai o’r effeithiau ar staff awdurdodau lleol sy’n cefnogi pobl sy’n wynebu digartrefedd, gan gynnwys y canfyddiad allweddol bod “dros 75% o’r ymatebion wedi dweud wrthym ni eu bod nhw’n teimlo bod eu lles meddyliol wedi gostwng ers Ionawr 2020, a bod pwysau llwyth gwaith yn ffactor allweddol.”

 

Mae materion allweddol eraill a gaiff eu hamlygu yn yr adroddiad yn cynnwys:-

 

Ym mis Hydref 2021, cyhoeddodd y Rhwydwaith Cymorth Tai yr adroddiad “Workload and Wellbeing: an insight into the experience of operational staff during Covid-19” sy’n nodi canfyddiadau o arolwg staff gweithredol yng ngwasanaethau digartrefedd Awdurdodau Lleol Cymru yn gofyn am eu barn ynghylch eu llwyth gwaith a’u lles. Mae’r adroddiad yn disgrifio nifer y bobl a soniodd am gynnydd yn y galw a’r pwysau yn eu gwaith sy’n ymwneud yn aml â’r newidiadau ym mholisi a Chanllawiau digartrefedd Llywodraeth Cymru. Nododd cyfran uchel fod gwaith yn effeithio’n negyddol ar eu lles a nododd dros hanner eu bod nhw wedi ystyried gadael eu swydd.  Mae’r galw parhaus am wasanaethau digartrefedd a llety dros dro yn y cyfnod ers diwedd y pandemig yn golygu bod y pwysau hwn ar staff yn parhau i fod yn berthnasol.

 

Mae adroddiad Cymorth Cymru “Struggles from the Frontline” Struggles_from_the_Frontline_-_Eng.pdf (cymorthcymru.org.uk)  yn tynnu sylw at yr effeithiau ar weithwyr rheng flaen sy’n darparu gwasanaethau cymorth tai a digartrefedd mewn sefydliadau partner wedi’u comisiynu gan Gynghorau yn aml i ddarparu gwasanaethau hanfodol gan ddefnyddio’r Grant Cymorth Tai, yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw presennol a’r galw mawr am wasanaethau.

 

Er gwaethaf y cyllid ychwanegol sylweddol ac a groesawyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig a’r flwyddyn ariannol bresennol, nid yw gwasanaethau digartrefedd wedi’u diogelu rhag pwysau costau ehangach a'r cyfyngiadau o ran y gyllideb a brofir ar draws gwasanaethau'r Cyngor. Mae pwysau chwyddiant yng nghyllidebau cynghorau’n codi o nifer o ffynonellau yn cynnwys cyflog, ynni a chludiant. Caiff y pwysau o ran y costau hyn eu rhannu gan y sefydliadau partner a gomisiynir gan Gynghorau i ddarparu gwasanaethau cymorth hanfodol.

 

 

Mae cynghorau a’u partneriaid wedi bod yn awyddus i ddefnyddio’r holl adnoddau presennol ac ychwanegol i fanteisio ar gyfleoedd i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a phriodol yn y tymor byr i’r tymor canolig, pryd bynnag y bo modd.  Yn y cyd-destun hwn, mae wedi bod yn ddefnyddiol bod Llywodraeth Cymru wedi nodi’n bendant y syniad o lety trosiannol a’i swyddogaeth bwysig o ran pontio’r bwlch rhwng llety dros dro a thai parhaol.

 

Mae Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro benodol, ychwanegol wedi'i sefydlu. Mae’r cymorth gwaith gan y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro yn cynnwys gwaith yn ymwneud ag eiddo gwag nad yw’n gysylltiedig ag ailosod safonol, addasiadau, ailfodelu’r stoc bresennol, dymchwel ac ailadeiladu, datrysiadau Dulliau Adeiladu Modern, ac ati. Mae hyn hefyd wedi cynnwys cefnogaeth i ddefnyddio safleoedd yn y cyfamser cyn cynlluniau datblygu mwy parhaol.

 

I gefnogi ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel ychwanegol ar gyfer rhentu cymdeithasol yn ystod tymor presennol y Llywodraeth, mae cyllideb y Grant Tai Cymdeithasol sydd ar gael i Gynghorau a’u partneriaid, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, wedi cynyddu’n sylweddol dros lefelau hanesyddol diweddar, ac ar hyn o bryd y cyfanswm yw £1 biliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol a'r ddwy flynedd ariannol nesaf.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda nifer cynyddol o Gynghorau i ehangu eu Cynllun Prydlesu Cymru sy’n annog ac yn cefnogi landlordiaid sector preifat i sicrhau bod eu heiddo nhw ar gael am gyfnod prydles hir i ddarparu llety fforddiadwy ychwanegol y mae ei angen yn fawr i fodloni anghenion tai lleol, gan gynnwys ar gyfer y rhai sy’n symud ymlaen o bob math o lety dros dro. Mae sawl Cyngor wedi gweithredu eu cynlluniau sector preifat lleol tebyg eu hunain hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi datblygu strategaeth gaffael yn ddiweddar sy'n canolbwyntio'n benodol ar ddod â chartrefi presennol, a allai fod yn wag neu sydd eisoes â thenantiaid, i stoc tai cymdeithasol Cynghorau neu gymdeithasau tai.

 

Pryd bynnag y bo modd, mae datblygu datrysiadau tai dros dro a mwy hirdymor newydd yn canolbwyntio ar ddarparu rhagor o ddewisiadau i fodloni anghenion tai pawb sydd angen cymorth gan gynnwys aelwydydd digartref mewn llety dros dro, aelwydydd ar gofrestrau tai presennol sydd mewn cartref anniogel, ac aelwydydd yng Nghymru yn rhan o gynlluniau adsefydlu ffoaduriaid ehangach sy’n cefnogi aelwydydd o Wcráin, Affganistan, Syria ac eraill, yn cynnwys y rhai y mae eu cais am loches wedi’i dderbyn ac sy’n dymuno ymgartrefu yng Nghymru.

 

Hyd yn oed â’r lefel uchaf erioed o gymorth buddsoddi a benthyca gan Gynghorau a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, mae llawer o heriau newydd ynghlwm â datblygu digon o gartrefi newydd yn cynnwys tir sydd ar gael, cyfyngiadau ffosffad mewn sawl ardal, costau deunyddiau’n codi, cyfyngiadau ar gyflenwad deunyddiau, prinder sgiliau allweddol angenrheidiol, capasiti mewn rhai o swyddogaethau’r Cyngor, capasiti mewn cwmnïau cyfleustodau, ac ati.

 

 

Mae CLlLC ac awdurdodau lleol yn cymryd rhan weithredol yn y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd, a’r Panel Adolygu Arbenigol ar Ddigartrefedd yn ogystal ag amrywiaeth o grwpiau tasg a gorffen, gweithgorau, ac ati, sy’n ymwneud â datblygu llawer o’r argymhellion o’r cynllun gweithredu lefel uchel. Eu nod yw sicrhau bod digartrefedd yng Nghymru yn dod yn beth prin, byr ac nad yw’n digwydd dro ar ôl tro.

 

Elfen allweddol y cynnydd hwn yw’r datblygiad gan Gynghorau a’u partneriaid o’u Cynlluniau Ailgartrefu Cyflym cychwynnol yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru, yn unol â’r canllawiau a ddatblygwyd.

Mae’r is-grwpiau a sefydlwyd i gefnogi gwaith y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yn cynnwys y rhai sy’n canolbwyntio ar:-

-          Ddatblygu fframwaith canlyniadau strategol Digartrefedd newydd;

-          Gweithlu; ac

-          Ailgartrefu Cyflym.

 

Mae’r Panel Arbenigol ar Ddigartrefedd wedi’i sefydlu i wneud argymhellion ynghylch diwygiadau i’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer digartrefedd, gan gyfrannu at ddatblygu Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru yn y dyfodol sy’n ymdrin â chynigion ar gyfer diwygio digartrefedd yng Nghymru’n sylweddol, fel y nodir yn y Rhaglen Lywodraethu. Cafodd cyfarfod cyntaf y panel ei gynnal ym mis Medi 2022 ac mae rhaglen o gyfarfodydd ar waith tan fis Mehefin 2023.

 

 

Jim McKirdle, Swyddog Polisi (Tai)